Am Y Theatr

Gweledigaeth unigolyn ynteu cymuned gyfan ddatblygodd yn adeilad aml bwrpas unigryw megis y Stiwt? ’Roedd daliadau gwleidyddol rhai o’n cyndadau yn barod i herio’r meistri a’r wladwriaeth i hawlio amodau gwaith a chyflogau gwell. Er anghydfod y Streic fawr, da clywed fod dealltwriaeth a chydweithio amyneddgar rhwng y rheolwyr lleol a chriw o unigolion penderfynol, ar syt i wireddu eu gweledigaeth, sef i feithrin , datblygu a chynnal dyheadau creadigol, diwylliannol a hamdden holl boblogaeth yr ardal, a’r gymuned Gymraeg yn arbennig. Bu trafod am flynyddoedd cyn cau pen y mwdwl, a chyda cymorth Cymdeithas Les y Mwynwyr oedd yn derbyn ceiniog am bob tunnell a godwyd, llwyddwyd i godi digon o arian i gynllunio, codi a chynnal Y Plas Mwynwyr. Fel heddiw, ’roedd gofyn am gyfraniad cyfatebol, a diddymwyd dwy geiniog yr wythnos o gyflogau prin y coliars am rai blynyddoedd. Wedi chwilio brwd, penodwyd rhestr fer o dri safle addas ac yn ol yr hanes, cyflwynwyd cae moch Joseph Phillips, Gwylfa, Broad Street i’r pwyllgor. Cae braf, a golygfa eang dros saith Sir, lle magwyd moch a lle chwaraeai hogia’r stryt eu pel droed. Dim ond Gwylfa yn y Stryt Lydan a Bryn Maelor yn Peter St oedd yn bod ar yr adeg, cyn i weddill y tai gael eu hadeiladu. Daeth y dydd a gwawriodd y wawr, gwireddwyd y freuddwyd ~ agorwyd y Stiwt ar y 25 o Fedi 1926 ar gost ychydig o bunnoedd yn fyr o £18,000.

Rhosllannerchrugog oedd pentref mwyaf Cymru ar un adeg ~ ond nid lle yw Rhos ond pobl a hynodrwydd arbennig i’w haml dalentau.Amlygir hyn yn y corau, y gymuned glos ac annibynnol, ei chrefydd a’i chapeli di ri, ei hagwedd ddirmygus at gynllunio trefol ac nid lleiaf y Plas Mwynwyr. Yn adnabyddus trwy Gymru bellach fel y Stiwt . Gellir disgrifio’r adeilad unigryw fel Theatr foethus o’r safon ddiweddaraf a chanolfan gymdeithasol amlbwrpas. Cynlluniwyd y Stiwt yn bennaf i’w chymuned ond allforiwyd ei dylanwad yn rhesi i gyfandiroedd y byd trwy dalentau y corau a’r actorion fwriodd brentisiaeth ar ei lwyfan.
Bellach mae’r adeilad ar restr 2* Cadw yr asiant cadwraeth. Wrth ei restru disgrifir o fel a ganlyn:- Adeiladwyd rhwng 1924 a 1926, cynlluniwyd gan John Owen , Wrecsam a F.A.Roberts yr Wyddgrug , Yn y cynllun gwreiddiol cafwyd y brif Neuadd, Ystafell Ddarllen, ystafell chwaraeon, dwy ystafell billiards, neuadd ymgynnull a fflat bach ond wrth adeiladu newidiwyd y fflat yn lyfrgell. Yn y tridegau daeth y brif neuadd yn Sinema gyda seddi sefydlog. Caewyd y Stiwt yn 1977 ond wedi brwydr hir ac anodd ail agorwyd yr adeilad ar ei newydd wedd gyda chymorth rhyw £2.7 miliwn o bres Y Loteri Dreftadaeth ond hefyd rhyw £1.3M trwy ymdrechion cyfeillion di flino’r Stiwt yn 1999. Oddi allan disgrifir yr arddull fel Baroque rhwng rhyfelau . Brics coch lleol gyda addurniad Carreg rudd olau a choncrid cyfnerthedig.a thô llechi. O gwmpas drws y cyntedd ceir 3 rhan gyda colofnau ’Doric’dwbl yn cynnal oriel gyda balwstrad. Tipyn o steil i bobol y Rhos ond steil sydd yn gweddu i’r dim heddiw fel yn 26. Sawl un ohonoch sydd yn cofio’r Stiwt yn cael ei adeiladu? Dewch i gyswllt. Dros y blynyddoedd daeth rhai o artsitiad enwocaf byd y theatr i berfformio ar lwyfan y Stiwt:- Sybil Thorndyke, Lewis Casson, Forbes Robinson, Richard Tauber,,Ernest Bevin, Huw Gaitskell, Richard Dimblebey, David Lloyd George, Isobel Bailey, David Lloyd, gan roi cyfle i werin bobl y cylch fwynhau profiadau celfyddydol a gwleidyddol. Ymgartrefodd sawl cymdeithas rhwng y muriau yn gorau, cwmniau drama ac opera ar lle dan ei sang rhan amlaf. Daeth cyfnod y rhyfel a ffilmiau i’n diddori a phrin oedd lle i chwythu trwyn yn Broad Street oddeutu’r wyth ar Nos Sadwrn. Sawl un ohonoch tybed ddechreuodd eich carwriaeth yn y seddi dwbl ar yr oriel. Ar ddechrau’r saith degau daeth brwydr arall i siglo’r seiliau a’r ffraeo ar syrthio allan yn datblygu yn Glwb yr Hafod. Mae’n siwr bod sawl barn am yr hyn a ddigwyddodd, tybed a’i honno oedd yr hoelen gyntaf yn hanes arch dirywiad y Stiwt. Erbyn 1977 rhoddwyd y ffidl yn tô a chaewyd yr adeilad a bu’r diriwiad cyflym yn yr adeilad yn sioc. Er i Gyngor Wrecsam brynnu’r lle nid oedd fawr o gefnogaeth ariannol yn lleol nac yn genedlaethol i adnewyddu’r galon grebychlyd hon. Diolch i’r drefn , a chydnabyddwn yn ddiolchgar eu hymdrechion, daeth rhyw griw bach o gefnogwyr yr achos at eu gilydd i frwydro unwaith eto i ail sefydlu’r Stiwt fel Calon y Gymdeithas. Wrth ail wampio yr adeilad ym 1996-99 daeth cyfle hefyd i brynu Bryn Maelor gan ganiatau ehangu’r llwyfan allan ac ar i fyny. Erbyn hyn mae angen steps go uchel i dynnu’r coconuts oddiar y palmwydd yn sioe South Pacific gan i’r cefnlenni bellach gael eu dangos yn eu llawn maint. Ychydig wyddai, fod hen bwll a thwneli brith drafflith wrth ochr Bryn Maelor ac i mewn i’r pwll hwnnw aeth swm sylweddol o arian y loteri i’w ddiogelu i’r dyfodol. Bu’r frwydyr i lenwi’r diffygion rhain yng nghyllid yr adnewyddu yn un hir dymor ac hyd yn oed heddiw mae prinder cyllid yn llesteirio datblygu llawn botential yr adeilad. Diolch i bawb roddodd awr neu oriau i mewn i ddiogelu’r adnodd arbennig hwn .Yng ngeiriau’r athro Glyn O Phillips
“Mae’r Stiwt yn sefyll dros y pethau a wnaeth Rhos yn unigryw”. Rhaid ei harbed doed a ddelo.
Erbyn hyn mae’r costau cynyddol yn peri pryder eto a chostau nwy, trydan, dwr, a chyflogau heb sôn am gynnal a chadw ar adegau, bron mynd yn drech na’r nifer fach o wirfoddolwyr sy’n ymdrechu’n ddyfal ac yn gyson i godi arian. Mae’r cyfeillion ers yr ail agor yn codi o leiaf £12,000 y flwyddyn fel rhan o’r cytundeb ariannu gyda Chyngor Wrecsam. Maent hwythau yn eu tro yn hael eu cymorth ynghyd a Chyngor Cymuned y Rhos a Chyngor Celfyddydau Cymru ac ystyried prinder arian cyhoeddus yn gyffredinol. Er i’r pwyllgorau rheoli geisio cyflenwi rhaglen amrywiaethol ac i dros 12,000 y flwyddyn ddefnyddio’r lle, prin ar adegau, yw’r gefnogaeth. Apeliwn, wrth i ni ddathlu 80 mlynedd o adloniant safonol yn ein cymuned, ar i’r rhai ohonoch sydd yn hoff o’r celfyddydau ymdrechu i gefnogi yr adloniant a gynigir. Mae’n amhosib marchnata ein cynnyrch heb adnoddau digonol.
Gyda Cymorth Cyngor y Celfyddydau mae rheolwr newydd wedi ei phenodi yn ddiweddar a chyda cymorth y Bwrdd ar asiantau eraill ein nôd yw gwella pob agwedd ar ein darpariaeth. Dywedwch wrthym beth yr hoffech ei weld a cheiswn ei drefnu. Cefnogwch Y Stiwt. Holwch am fanylion ymuno ar cyfeillion.
Swyddfa Docynnau
01978 841300


